<div class="left twelvecol header-block"><!-- [et_pb_line_break_holder] --> <div class="h1">Newyddion</div><!-- [et_pb_line_break_holder] --></div>

13/09/2021

Canmoliaeth i Gethin y Prentis mewn seremoni wobrwyo genedlaethol


Llongyfarchiadau i’n prentis, Gethin Elsam, a sicrhaodd Ganmoliaeth Uchel yn un o’r prif wobrau tai yn y DU.

Ymunodd Gethin Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2019, ac roedd yn un o blith wyth a gyrhaeddodd rownd derfynol categori Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Arwyr Tai 2021.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar 7 Medi yn Emirates Old Trafford, Manceinion, gan ddathlu arwyr di-sôn-amdanynt y sector tai yn y DU.

“Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria ac i Grŵp Tai Wales & West ehangach.”

Peter Jackson, Cyfarwyddwr Rheoli Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria

Ers ymuno â Rhaglen Prentisiaeth Cambria, mae Gethin wedi dod yn rhan o dîm o dros 180 o staff, sy’n cynnwys 28 o brentisiaid, y maent yn gwneud gwaith trwsio ac adnewyddu ceginau ac ystafelloedd ymolchi yn 12,000 o gartrefi WWH ar draws Cymru.

Mae wedi gweithio’n galed, gan wneud argraff ar ei gydweithwyr a’i reolwyr.

Dywedodd Peter Jackson, Cyfarwyddwr Rheoli Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria: “Rydym oll mor falch o Gethin.

“Pan ymunodd â ni yn gyntaf, roedd Gethin yn gofidio y gallai ei ddyslecsia ei atal rhag dilyn gyrfa ym maes adeiladu neu gynnal a chadw adeiladau.

“Ond mae ei benderfyniad, ei waith caled a’i barodrwydd i ddysgu wedi talu ar ei ganfed. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria ac i Grŵp Tai Wales & West ehangach.

“Mae preswylwyr wastad yn cyfeirio at gwrteisi Gethin ac maent yn canmol ei waith. Mae ganddo ddyfodol disglair o’i flaen ac rydym yn falch o gael bod yn rhan o ddatblygiad ei yrfa.”

Dywedodd Gethin: “Rydw i’n teimlo mor ffodus o gael sicrhau prentisiaeth gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. Roeddwn yn credu y byddai fy nyslecsia yn fy nal yn ôl, ond mae fy rheolwyr yn Cambria mor gefnogol.

“Rydw i’n teimlo fel aelod o dîm gwych. Trwy fynd i’r coleg a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol, rydw i wedi dysgu cymaint ac mae gennyf gymaint mwy i’w ddysgu. Rydw i’n dwli ar fy ngwaith gyda Cambria.”

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here