Cwmni lleol sydd â chydwybod cymdeithasol

Rydym yn fenter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl trwy sicrhau bod cartrefi y mae Tai Wales & West yn berchen arnynt yn ddiogel ac yn cael eu cynnal a’u cadw i safon uchel.

Rydym yn gwmni proffesiynol, sydd wedi contractio i Dai Wales & West, ac rydym yn byw gwerthoedd craidd a gweledigaeth Grŵp Tai Wales & West.

Mae gwneud y peth iawn yn gyrru popeth yr ydym yn ei wneud yng Ngwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Rydym yn darparu gwasanaethau i gymunedau yng Ngogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Cymru a Gorllewin Cymru, gan weithredu o swyddfeydd yng Nghaerdydd, Castellnewydd Emlyn ac Ewlo.

Ein Pobl

Mae’n tîm ymroddedig o 170 staff sy’n gweithio ar draws Cymru wrth wraidd ein llwyddiant.

Strwythur y grŵp

Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Cyfyngedig yn rhan o Grŵp Tai Wales & West – sy’n cynnwys Tai Wales & West, Datblygiadau Enfys a Chartrefi Castell hefyd.

Sefydlwyd yn 2010

Sefydlwyd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2010, ym mherchnogaeth lwyr Tai Wales & West, a defnyddir unrhyw elw a wnawn i hyrwyddo diben cymdeithasol Grŵp Tai Wales & West.

Yn rheoli dros 12,000 eiddo

Mae’r Grŵp yn berchen ar ac yn rheoli dros 12,000 eiddo ac mae gofyn gwneud ystod eang o waith a darparu ystod eang o wasanaethau er mwyn sicrhau y caiff cartrefi eu cynnal a’u cadw i safon uchel, gan fuddsoddi dros £12 miliwn bob blwyddyn.

Gweithio ar draws Cymru

Mae gan Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yn Ewlo, ac mae’n cyflawni ystod eang o waith cynnal a chadw mewn tai ar draws Gogledd, Canolbarth, De a Gorllewin Cymru.

Ein gwasanaethau

Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth trwsio ymatebol o ansawdd uchel i breswylwyr Tai Wales & West, gan gynnwys gwaith brys y tu allan i oriau arferol a gwaith trwsio mewn eiddo gwag. Yn ogystal, rydym yn cwblhau rhaglen helaeth o waith cynnal a chadw wedi’i gynllunio, gan gynnwys adnewyddu ceginau, ystafelloedd ymolchi a thu allan cartrefi.

Cadw cartrefi yn ddiogel

Rydym yn cyflawni gwaith profi trydanol a gwaith gwasanaethu nwy, y mae’r ddau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cartrefi yn ddiogel i breswylwyr fyw ynddynt.

Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn rhan ganolog o bopeth a wnawn fel sefydliad, gan adlewyrchu ein diwylliant, y ffordd yr ydym yn gweithio gyda phreswylwyr a sut yr ydym yn trin ein staff.

Teg

Cytbwys, canmol pan ddylid gwneud hynny a beirniadu mewn ffordd adeiladol. Dull gweithredu cynhwysol, gan barchu urddas ac unigolrwydd pawb

Agored

Agored i newid, wedi ymrwymo i ddysgu a gwelliant parhaus. Tryloyw, gonest a dibynadwy

Cyfrifol

Proffesiynol, herio’r trefniadau presennol, ymgymryd â’r cyfrifoldeb dros faterion a defnyddio ein menter er mwyn dal ati a sicrhau eu bod yn cael eu datrys

Cefnogol

Hawdd delio â ni, hawdd troi atom a hygyrch. Croesawgar, gofalgar, yn gwrando ac yn ymateb

Effeithlon

Gwneud y defnydd gorau o adnoddau a sicrhau bod ein gweithgareddau yn cael cymaint o effaith ag y bo modd

Gyrfaoedd gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria

Rydym yn gwmni gwych i weithio iddo, ac rydym yn cynnig amrediad o fuddion er mwyn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Holwch ein staff, y mae eu hadborth cadarnhaol nhw wedi ein helpu i sicrhau achrediad uchaf cynllun Cwmnïau Gorau, sef 3 seren, am fod yn gyflogwr ‘eithriadol’.

Yn ogystal, rydym wedi sicrhau safon Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl (BmP), un o blith grŵp dethol o gwmnïau i sicrhau safon uchaf BmP am ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff.

Dysgu mwy

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here