Croeso i Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria

Ni yw prif ddarparwr gwasanaethau cynnal a chadw tai ar gyfer Tai Wales & West a’n gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.

Dysgu mwy

Cyfle i weithio i gyflogwr eithriadol sydd wedi ennill gwobrau

Dyfarnwyd safon Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl i ni ac rydym wedi sicrhau’r achrediad uchaf gan gynllun Cwmnïau Gorau, sef 3*, a ddyfarnir i sefydliadau sy’n dangos lefelau ‘eithriadol’ o ran gweithgarwch ymgysylltu gyda chyflogeion yn y gweithle yn unig.

Swyddi lluosog ar gael

Os ydych chi’n drydanwr, yn beiriannydd nwy neu’n weithiwr amlsgiliau cymwys, mae ein rolau ni yn ymwneud â phob maes o fewn cynnal a chadw eiddo, felly efallai bod gennym y swydd berffaith i chi.

Pecyn buddion a gwobrwyon rhagorol

Yn ogystal â chyflogaeth sefydlog a diogel, gall cyflogeion Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria fanteisio ar fuddion gwych, gan gynnwys cyflog cystadleuol, pensiwn, cynllun ariannol Simplyhealth a gwyliau blynyddol hael.

t

Cwmni Cymreig sydd â diben cymdeithasol

Yr hyn a wnawn, ble’r ydym yn gweithredu a pham ein bod yn gweithio i Dai Wales & West yn bennaf

Cyflogwr sydd wedi ennill gwobrau

Rydym wedi sicrhau Safon Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl ac achrediad uchaf Cwmnïau Gorau, sef 3*

Cyfarfod ein staff

Rydym yn cynnig dewis eang o swyddi amrywiol. Dyma rai o’n staff, gan gynnwys prentisiaid.

 

Swyddi gwag presennol

Rydym yn cyflogi pobl ym mhob rhan o Gymru. Trowch at wybodaeth am ein swyddi diweddaraf, gan ymgeisio ar-lein.

Cofrestru i gael hysbysiadau swyddi

A oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’n cwmni sydd wedi ennill gwobrau? Os ydych yn fodlon rhoi eich manylion cyswllt i ni, byddwn yn cysylltu â chi pan fydd gennym swyddi gwag.

Tasg trwsio yn mis Tachwedd

Gogledd Cymru

De Cymru

Gorllewin Cymru

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here