Cyfarfod ein staff

O brentisiaid i beirianwyr nwy, trydanwyr ac uwch reolwyr, mae ein tîm yn cydweithio i wneud gwahaniaeth.

Fel unrhyw weithlu, mae rhai o aelodau ein tîm yn hollol newydd i Cambria, ond mae nifer wedi bod gyda ni am gyfnod llawer hwy – wedi’r cyfan, rydym yn gyflogwr sydd wedi ennill gwobrau.

Yma, gallwch gyfarfod rhai o aelodau tîm Cambria. Gallwch ddarganfod pam y gwnaethant ymuno â ni a beth maent yn ei garu gymaint am eu swydd.

Ac os byddwch yn hoffi eu straeon gymaint fel yr hoffech ymuno gyda ni hefyd, trowch at ein tudalen swyddi gwag i gael gwybod mwy neu i gofrestru am hysbysiadau swyddi.

Bûm yn gweithio ym maes cynnal a chadw eiddo ers dros chwe blynedd, gan ddelio gyda chleientiaid masnachol a thai cymdeithasol, cyn ymuno â Cambria yn 2020 fel Rheolwr Cymorth Gweithredol. Rydw i wedi mwynhau gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol yn fawr iawn. Mae ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn ac mae hyn yn rhywbeth i fod yn falch ohono.

Abigail Gaughan

Rheolwr Cymorth Gweithredol

A oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn brentis i Cambria?

Rydym yn recriwtio prentisiaid bob blwyddyn i nifer o wahanol rolau, gan gynnwys nwy, trydanol a chyffredinol

Cyn i mi ymuno â Cambria, arferwn weithio mewn archfarchnad ond roeddwn yn dymuno gwella fy hun a llwyddais i sicrhau prentisiaeth gyda Cambria. Mae’r tîm yma wedi bod yn wych gyda mi. Roedd y brentisiaeth yn heriol ar y dechrau, ond rydw i bellach yn fwy hyderus ac rydw i wedi dysgu nifer o sgiliau newydd.

Rob Granger

Prentis

Rydw i’n Beiriannydd Sifil yn ôl galwedigaeth ac ymunais â Cambria yn 2011 a deuthum yn Gyfarwyddwr Rheoli yn 2019. Rydw i’n teimlo’n angerddol ynghylch darparu’r gwasanaeth gorau ag y bo modd i breswylwyr Tai Wales & West. Rydw i’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol, datblygiad a thwf cynaliadwy y busnes. Mae hyn yn cynnwys archwilio pa wasanaethau ychwanegol y gall Cambria eu darparu a dal i fyny gyda’r anghenion sy’n newid yn barhaus yn y sector cynnal a chadw tai.

Peter Jackson

Cyfarwyddwr Rheoli

Ar ôl cwblhau cwrs adeiladu lefel 1 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, roeddwn yn gwybod fy mod yn dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant cynnal a chadw. Roeddwn wedi gweld fan Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn gyrru o gwmpas yr ardal leol ac roedd gennyf ddiddordeb mawr yn eu gwaith, felly pan welais eu bod yn recriwtio, euthum ati’n eiddgar i ymgeisio.

Mae pob diwrnod yn wahanol, rydw i’n gweithio gyda thîm gwych ac rydw i’n mwynhau’r cyswllt gyda phreswylwyr yn fawr. Os wyf yn y coleg neu’n gweithio ar safle, rydw i wastad yn dysgu.

Rydw i mor falch o fod yn rhan o Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a Grŵp Tai Wales & West ac rydw i’n wirioneddol fwynhau gweithio yma.

Gethin Elsam

Prentis

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here