Mae grŵp Tai Wales & West, sy’n cynnwys Cymdeithas Tai Wales & West a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Cyfyngedig wedi cofrestru fel ‘rheolwyr data’ dan y Ddeddf Diogelu Data. Byddwn yn casglu, yn dal ac yn prosesu swm sylweddol o wybodaeth, yn cynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi sy’n caniatáu i ni ddarparu nwyddau a gwasanaethau’n effeithiol.
Mae eich gwybodaeth yn bwysig i ni a byddwn yn ystyried ein cyfrifoldebau’n ddifrifol ac yn sicrhau gydag unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi y byddwn yn ei chasglu ac yn ei defnyddio, y gwnawn hynny’n gymesurol, yn briodol ac yn ddiogel. Mae’r wybodaeth isod yn dweud ychydig mwy wrthych chi am yr hyn y byddwn yn ei wneud â’ch gwybodaeth chi a’r ffordd y byddwn yn gofalu amdani.
Sut fydd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn prosesu gwybodaeth y bydd yn ei chasglu amdanaf i?
- I’r diben y byddwch chi wedi darparu’r wybodaeth ac i fonitro ein perfformiad wrth ymateb i’ch cais.
- I ganiatáu i ni allu cyfathrebu a darparu gwasanaethau sy’n addas i’ch anghenion chi.
- I gysylltu â chi yn y post, ag e-bost neu ffôn i’ch diweddaru gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol neu nodiadau atgoffa neu i chi gyfranogi mewn arolygon/holiaduron i’n helpu i wella pethau.
- I ofalu ein bod yn bodloni ein gofynion cyfreithiol, yn cynnwys oblygiadau a orfodir dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol a Deddfau Iechyd a Diogelwch.
- Ar gyfer gorfodi’r gyfraith lle mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ymgymryd â phrosesu felly.
- I brosesu trafodion ariannol yn cynnwys grantiau, taliadau a buddion sy’n ymwneud â ni neu drydydd parti neu lle byddwn yn gweithredu ar ran cyrff eraill y llywodraeth, er enghraifft, yr Adran Gwaith a Phensiynau.
- Lle byddwch chi wedi cydsynio i’r prosesu.
- Lle bydd yn angenrheidiol i ddiogelu unigolion rhag niwed neu anaf.
- Lle y’i caniateir fel arall dan y Ddeddf Diogelu Data (I gael gwybodaeth bellach ar y Ddeddf Diogelu Data cyfeiriwch at wefan y Comisiynydd Gwybodaeth).
- Gallem hefyd ddefnyddio a chyhoeddi eich data personol, wedi iddo gael ei wneud yn ddienw, i ganiatáu dadansoddiad ystadegol o ddata i ganiatáu i ni gynllunio darpariaeth nwyddau a gwasanaethau’n effeithiol.
Ni chaiff eich gwybodaeth ei throsglwyddo ar unrhyw adeg i sefydliadau sy’n allanol i’r Gymdeithas i ddibenion marchnata na gwerthiannau.
Defnyddio eich data personol
- Gydnabod fod gennym gyfrifoldeb am unrhyw ddata personol y byddwn ni’n ei drin.
- Mabwysiadu a chynnal safonau uchel o ran trin a defnyddio’r data personol hwnnw.
- Casglu, dal a defnyddio data personol dim ond pan fydd hi’n angenrheidiol ac yn gymesur i ni wneud hynny.
- Dileu’n ddiogel unrhyw ddata personol pan na fydd ei angen mwyach.
- Cadw eich data personol yn ddiogel.
- Ystyried a delio â phreifatrwydd yn gyntaf wrth gynllunio defnyddio neu ddal gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd newydd, fel wrth gyflwyno systemau newydd.
- Bod yn agored â chi ynglŷn â’r ffordd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth ac i bwy y byddwn yn ei rhoi.
- Ei gwneud yn hawdd i chi gael mynediad at eich data personol a’i gywiro.
- Gofalu fod yna ddiogelwch effeithiol a systemau yn eu lle i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel ac na fydd yn cyrraedd y bobl anghywir.
- Darparu hyfforddiant i staff sy’n delio â gwybodaeth bersonol.
- Rhoi adnoddau ariannol a dynol priodol i ofalu am eich gwybodaeth bersonol i sicrhau y gallwn gadw at ein haddewidion.
Gallem ddatgelu data personol i drydydd parti, gallai hyn gynnwys ein contractwyr, ond dim ond lle bydd hynny’n angenrheidiol, un ai i gydymffurfio ag oblygiad cyfreithiol, neu pan ganiateir hynny dan y Ddeddf Diogelu Data, er enghraifft lle bydd angen datgelu i ganiatáu i drydydd parti weithio i ni neu ar ein rhan i ddarparu gwasanaeth.
Fe wnawn ymdrechu i sicrhau y cedwir unrhyw ddata personol y byddwn yn gofalu amdano’n ddiogel a phan fydd eich gwybodaeth yn cael ei datgelu i drydydd parti fe geisiwn sicrhau fod y trydydd parti â systemau a gweithdrefnau digonol i atal colli data personol.
Lle byddwn yn gofyn am ddatgelu data personol sensitif, fel manylion meddygol, i drydydd parti, fe wnawn hynny dim ond gydag eich cydsyniad clir chi neu lle bydd yn gyfreithiol ofynnol i ni wneud hynny.
Beth am Gwcis
Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn derbyn cwcis yn ddiofyn. Fodd bynnag, os ydych chi’n anghyfforddus â chwcis, mae’n bosib y gallech osod porwr eich gwe i wrthod pob cwci neu roi gwybod i chi pan anfonir cwci i’ch cyfrifiadur – yna gallwch ddewis un ai derbyn y cwci neu beidio.
Gwybodaeth i wella ein gwefan
Datgelu ac Atal trosedd, twyll a pharu data
a) Yn angenrheidiol i ddibenion atal a/neu ddatgelu trosedd; a/neu
b) Sy’n angenrheidiol fel arall i gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arall.
c) Cynorthwyo gyda rheoli ymateb brys.
Mae paru data’n golygu cymharu cofnodion cyfrifiadur a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion cyfrifiadur arall a ddelir gan yr un corff neu gorff arall i weld i ba raddau y maent yn cydweddu. Gwybodaeth bersonol fydd hon fel rheol.
CCTV
Fe wnawn ddatgelu delweddau CCTV dim ond i eraill sy’n bwriadu defnyddio’r delweddu i’r dibenion a ddisgrifir uchod. Ni ryddheir delweddau CCTV ar gyfer y cyfryngau i ddibenion adloniant na’u rhoi ar y rhyngrwyd. Ni chedwir delweddau fydd wedi’u cipio gan CCTV yn hirach nag sydd ei angen. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd angen, ar achlysuron, cadw delweddau yn hirach, er enghraifft lle bydd yna ymchwilio trosedd. Mae gennych yr hawl i weld delweddau CCTV ohonoch eich hun ac i gael copi o’r delweddau (gweler ‘Eich Hawliau’ ynglŷn â sut i gael mynediad at ddelweddau CCTV).
Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol mewn perthynas ag unrhyw rai o’n gwasanaethau ni. Lle bo hynny’n bosib, fe geisiwn gydymffurfio â’ch cais ond mae’n bosib y bydd yna rai sefyllfaoedd lle na fyddwn yn gallu gwneud hyn yn gyfreithlon. Fodd bynnag, gallai peidio â phrosesu’r data hwn achosi oediadau neu lesteirio ein gallu i ddarparu gwasanaethau i chi. Mae gennych hawl cyfreithiol i ofyn am fynediad at gopi o unrhyw wybodaeth rydyn ni’n ei dal amdanoch chi a chael copi ohoni. Fe geisiwn gydymffurfio â’ch cais ond mae’n bosib y byddai rhai sefyllfaoedd lle na fydd hi’n bosib gwneud hynny’n llawn, er enghraifft lle bydd gwybodaeth a ddelir wedi’i rhoi’n gyfrinachol, gallai hyn gynnwys gwybodaeth a roddwyd i ni gan drydydd parti. I gael gwybodaeth bellach am un ai ofyn am fynediad at eich data personol neu i beidio â phrosesu data personol, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda. Byddwn yn ceisio sicrhau y bydd unrhyw ddata personol y byddwn yn ei ddal amdanoch chi’n gywir ond mae’n bosib y byddai yna sefyllfaoedd lle na fydd y wybodaeth a ddelir gennym ni’n fanwl gywir bellach. Os mai dyma’r sefyllfa, cysylltwch â’r adran sy’n dal y wybodaeth fel y gellir ymchwilio camgymeriadau a’u cywiro. Os byddwch yn ansicr ynglŷn â pha adran i gysylltu â hi, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data: Data.protection@Cambria Maintenance Services.co.uk Fe allem fonitro a chofnodi trafodion electronig (gwefan, e-bost a sgyrsiau ffôn). Fe’u defnyddir, er enghraifft, i helpu i wella ein gwasanaeth i chi, i atal neu ganfod trosedd neu ymchwilio neu ganfod defnydd heb ei awdurdodi o system telegyfathrebu a dim ond fel y’i caniateir gan y Rheoliadau Telegyfathrebu (Arfer Busnes Cyfreithiol) (Ymyriad â Chyfathrebu) 2000 neu ar gyfer dibenion busnes perthynol.
Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd
Gwybodaeth Bellach
Manylion polisi yswiriant/Manylion Adnabod y Porth
Ar gyfer Atebolrwydd Cyhoeddus, ein hyswiriwr yw NIG, rhif y polisi 006241418 trwy Arthur J. Gallagher Insurance Brokers Ltd a manylion adnabod digolledwr y porth yw AJGallagher G00315.