<div class="left twelvecol header-block"><!-- [et_pb_line_break_holder] --> <div class="h1">Newyddion</div><!-- [et_pb_line_break_holder] --></div>

08/02/2023

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – stori Matt

Ymgeisiodd Matt am brentisiaeth gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn ystod ei flwyddyn gyntaf yn y coleg. Ers ymuno â’r tîm, mae wedi dysgu amrediad o sgiliau newydd a chael digon o brofiad ymarferol, ac mae hyn wedi ei helpu ar ei lwybr i fod yn Beiriannydd Nwy.

“Gadewais y chweched dosbarth pan sylweddolais nad hwn oedd y trywydd iawn i mi.  Penderfynais fy mod yn dymuno gwneud rhywbeth mwy ymarferol, ond nid oedd y coleg yn addas i mi ychwaith.  Ar ôl astudio plymio am ddwy flynedd, ymgeisiais am brentisiaeth gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Nid oeddwn yn gweithio ar y pryd, felly roedd hi’n bwysig i mi sicrhau rhywle a fyddai’n helpu ac a fyddai’n fy annog i wella.  Rydw i’n hoffi’r ffordd y mae Cambria yn gwneud pethau yn fawr.  Maent wedi fy nghynorthwyo i feithrin fy sgiliau ac nid ydw i wedi teimlo fel pe bai’r gwaith yn ormod i mi o gwbl.

Ers cychwyn ar y brentisiaeth gyda Cambria, rydw i wedi bod yn gwneud ychydig o bopeth.  Rydw i wedi rhoi teils ar waliau a lloriau ymhlith pethau eraill, ac mae’r profiad wedi fy helpu i wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.   Ymgeisiais oherwydd amrediad y sgiliau a gynigir, ond fy ffocws ar gyfer y dyfodol yw bod yn Beiriannydd Nwy.

Fel arfer, bydd angen i brentisiaid fynychu’r coleg am un diwrnod yr wythnos, ond gan fy mod i eisoes wedi treulio blwyddyn yn y coleg, nid oedd angen i mi ddychwelyd.  Mae’n ddewis da i bobl fel fi sy’n canfod nad yw amgylchedd yr ysgol neu’r coleg yn addas iddyn nhw ar ôl eu blwyddyn gyntaf.

Mae gennyf bortffolio i’w gwblhau, gan dynnu lluniau o’m gwaith ar y safle i gynorthwyo wrth ysgrifennu deunydd y byddaf yn ei gyflwyno i aseswr law yn llaw â rhai asesiadau gweledol ar y safle o’m gwaith a’m harfer hefyd.  Byddaf yn mynychu’r coleg am un diwrnod yr wythnos hefyd pan fyddaf yn cychwyn ar fy nhystysgrif lefel 3.

Mae’r cyfle i weithio ar safleoedd gyda grŵp mor gyfeillgar o bobl wedi bod yn brofiad dysgu llawer gwell i mi yn gyffredinol.  Mae wedi bod yn wych gweithio gyda’r trydanwyr, y plymwyr a’r peirianwyr nwy, ac mae’n teimlo’n braf iawn bod yn rhan ohono.”

I gael gwybod mwy am raglen prentisiaethau Cambria, trowch at ein tudalen prentisiaethau.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here