Peter Jackson

Cyfarwyddwr Rheoli

Mae Peter yn Beiriannydd Sifil yn ôl galwedigaeth ac mae ganddo dros 35 mlynedd o brofiad ym maes dylunio, adeiladu a chynnal a chadw. Ar ôl cyflawni rôl Rheoli Uwch mewn Llywodraeth Leol, ymunodd Peter â Cambria yn 2011, ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Rheoli er 2019. Mae Peter yn teimlo’n angerddol ynghylch darparu’r gwasanaeth gorau ag y bo modd i breswylwyr Tai Wales & West, gan fanteisio ar ei brofiad o gyflawni amrywiaeth o rolau cleientiaid a chontractio uwch. Fel Cyfarwyddwr Rheoli, mae Peter yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol, datblygiad a thwf cynaliadwy y busnes. Mae hyn yn cynnwys archwilio pa wasanaethau ychwanegol y gall Cambria eu darparu a dal i fyny gyda galwadau’r sector cynnal a chadw tai sy’n newid o hyd. Mae Peter yn aelod o Fwrdd Tai Cymunedol Bron Afon ac mae’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Afon Cyfyngedig.

Geraint Parry

Pennaeth Cyflenwi Gwasanaeth Cynnal a Chadw

Ganwyd a magwyd Geraint yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru, a bu’n astudio peirianneg cyn cychwyn ar yrfa amrywiol yn gweithio yn y cyfryngau ac yna, yn rhedeg ei fusnes DIY ei hun. Mae Geraint yn blymwr cymwys a dechreuodd weithio i gontractwr lleol yng Ngogledd Cymru yn 2008 cyn ymuno â Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2013, yn gyntaf fel Arweinydd Tîm ac yn nes ymlaen, fel Rheolwr Gweithrediadau. Bellach, mae Geraint yn Brif Rheolwr Gweithrediadau ac mae’n goruchwylio gweithrediadau fel rhan o dîm sy’n gweithio i ddarparu gwasanaeth o ansawdd i breswylwyr Tai Wales & West.

David Milligan

Rheolwr Gweithrediadau

Ymunodd David â Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2021 fel Rheolwr Gweithrediadau, gan ddwyn profiad sylweddol gydag ef o’i rolau blaenorol o fewn Grŵp MSS, gan arbenigo mewn gwaith cydymffurfiaeth asbestos, legionella, tân a radon. Cychwynnodd ei yrfa fel prentis saer coed yn gweithio ar safleoedd ac ym maes cynnal a chadw, cyn sicrhau gradd sylfaen mewn tirfesur a symud ymlaen i faes cydymffurfiaeth eiddo.

Wayne Morris

Rheolwr Gweithrediadau

Cychwynnodd Wayne ar ei fywyd gwaith fel prentis lloriwr maen. Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth, aeth i ymlaen i weithio i nifer o gwmnïau adeiladu mawr. Yn 2002, penderfynodd Wayne newid gyrfa, gan sicrhau gradd ym maes gwaith Ieuenctid a gwaith Cymunedol, wrth weithio gyda phobl ifanc ym maes adeiladu a’u helpu i sicrhau cymhwyster yn y grefft o’u dewis. Yna, ymunodd Wayne â Thai Wales & West fel Swyddog Rheoli Asedau, cyn cael ei secondio i weithio i Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2011. Mwynhaodd weithio i’r cwmni gymaint fel yr ymgeisiodd am rôl Rheolwr Gweithrediadau parhaol.

Gareth Perkins

Rheolwr Gweithrediadau

Mae Gareth yn hanu o Aberhonddu a symudodd i Ogledd Cymru ym 1972, lle y gorffennodd ei addysg. Cwblhaodd gwrs City & Guilds mewn Plymio, Gwresogi a Nwy wrth weithio i gwmni gwresogi lleol, cyn cyflawni sawl rôl gyda chontractwyr mawr fel gweithiwr nwy/gwresogi proffesiynol, a oedd yn cynnwys gweithio ar eiddo newydd. Mae gan Gareth brofiad o reoli darpariaeth gwasanaeth ar lefel leol a rhanbarthol ac ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yng Ngogledd Cymru.

Leon Carrington

Rheolwr Gweithrediadau

Bu Leon yn gweithio i gontractwr lleol o 2008, gan astudio gyda’r hwyr a gweithio ar safleoedd yn ystod y dydd. Ymunodd â Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2013 fel Gweithiwr Masnach ac mae ganddo brofiad o bob gwaith cynnal a chadw adweithiol ac wedi’i gynllunio, gan gynnwys gwaith addasu ffisegol, a drosglwyddodd i eraill pan symudodd ymlaen i gyflawni rôl Gweithiwr Masnach Arweiniol. Penodwyd Leon yn Rheolwr Gweithrediadau yn 2021 ac mae’n mwynhau sialensiau ei rôl newydd wrth iddo barhau ei yrfa gyda Cambria.

Nicole Parsons

Rheolwr Gweithrediadau

Ar ôl cwblhau Lefel A, cychwynnodd Nicole ei gyrfa ym maes arfer pensaernïol, gan symud i Jewson, rhan o Grŵp Saint Gobain, lle y bu’n gweithio am 10 mlynedd gan sicrhau profiad helaeth ym maes caffael a chyflenwi deunyddiau. Ymunodd â Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2011 fel rhan o’r tîm gweinyddu, gan symud ymlaen i fod yn Rheolwr Swyddfa ac yna, yn Swyddog Systemau Trwsio ar gyfer Tai Wales & West. Dychwelodd Nicole i Cambria fel Rheolwr Gweithrediadau yng Ngogledd Cymru, cyn trosglwyddo i swyddfa Caerdydd i ymgymryd â’r un rôl yn ei rhanbarth hi, De Cymru.

Abigail Gaughan

Rheolwr Cymorth Gweithredol

Mae gan Abbie dros chwe blynedd o brofiad ym maes cynnal a chadw eiddo gyda’r sector tai cymdeithasol ac amrediad o gleientiaid masnachol. Ymunodd â Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2020 fel Rheolwr Cymorth Gweithredol ac mae’n mwynhau gwneud gwahaniaeth i gymunedau ar draws Cymru trwy ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw rhagorol i breswylwyr Tai Wales & West. Mae Abbie yn falch o fod yn rhan o ddiwylliant Grŵp Tai Wales & West, a arweinir gan werthoedd, ac sy’n gyrru popeth a wnawn yng Ngwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria.

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here