Peter Jackson

Cyfarwyddwr Rheoli

Mae Peter yn Beiriannydd Sifil yn ôl galwedigaeth ac mae ganddo dros 35 mlynedd o brofiad ym maes dylunio, adeiladu a chynnal a chadw. Ar ôl cyflawni rôl Rheoli Uwch mewn Llywodraeth Leol, ymunodd Peter â Cambria yn 2011, ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Rheoli er 2019. Mae Peter yn teimlo’n angerddol ynghylch darparu’r gwasanaeth gorau ag y bo modd i breswylwyr Tai Wales & West, gan fanteisio ar ei brofiad o gyflawni amrywiaeth o rolau cleientiaid a chontractio uwch. Fel Cyfarwyddwr Rheoli, mae Peter yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol, datblygiad a thwf cynaliadwy y busnes. Mae hyn yn cynnwys archwilio pa wasanaethau ychwanegol y gall Cambria eu darparu a dal i fyny gyda galwadau’r sector cynnal a chadw tai sy’n newid o hyd. Mae Peter yn aelod o Fwrdd Tai Cymunedol Bron Afon ac mae’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Afon Cyfyngedig.

Geraint Parry

Pennaeth Cyflenwi Gwasanaeth Cynnal a Chadw

Ganwyd a magwyd Geraint yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru, a bu’n astudio peirianneg cyn cychwyn ar yrfa amrywiol yn gweithio yn y cyfryngau ac yna, yn rhedeg ei fusnes DIY ei hun. Mae Geraint yn blymwr cymwys a dechreuodd weithio i gontractwr lleol yng Ngogledd Cymru yn 2008 cyn ymuno â Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2013, yn gyntaf fel Arweinydd Tîm ac yn nes ymlaen, fel Rheolwr Gweithrediadau. Bellach, mae Geraint yn Brif Rheolwr Gweithrediadau ac mae’n goruchwylio gweithrediadau fel rhan o dîm sy’n gweithio i ddarparu gwasanaeth o ansawdd i breswylwyr Tai Wales & West.

Leon Carrington

Rheolwr Gweithrediadau

Bu Leon yn gweithio i gontractwr lleol o 2008, gan astudio gyda’r hwyr a gweithio ar safleoedd yn ystod y dydd. Ymunodd â Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2013 fel Gweithiwr Masnach ac mae ganddo brofiad o bob gwaith cynnal a chadw adweithiol ac wedi’i gynllunio, gan gynnwys gwaith addasu ffisegol, a drosglwyddodd i eraill pan symudodd ymlaen i gyflawni rôl Gweithiwr Masnach Arweiniol. Penodwyd Leon yn Rheolwr Gweithrediadau yn 2021 ac mae’n mwynhau sialensiau ei rôl newydd wrth iddo barhau ei yrfa gyda Cambria.

Nicole Parsons

Rheolwr Gweithrediadau

Ar ôl cwblhau Lefel A, cychwynnodd Nicole ei gyrfa ym maes arfer pensaernïol, gan symud i Jewson, rhan o Grŵp Saint Gobain, lle y bu’n gweithio am 10 mlynedd gan sicrhau profiad helaeth ym maes caffael a chyflenwi deunyddiau. Ymunodd â Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn 2011 fel rhan o’r tîm gweinyddu, gan symud ymlaen i fod yn Rheolwr Swyddfa ac yna, yn Swyddog Systemau Trwsio ar gyfer Tai Wales & West. Dychwelodd Nicole i Cambria fel Rheolwr Gweithrediadau yng Ngogledd Cymru, cyn trosglwyddo i swyddfa Caerdydd i ymgymryd â’r un rôl yn ei rhanbarth hi, De Cymru.

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Welsh

Click here