Cyflogwr sydd wedi ennill gwobrau
Rydym yn rhan o Grŵp Tai Wales & West, sydd wedi sicrhau achrediad 3* gan gynllun Cwmnïau Gorau – eu safon uchaf.
Yng ngeiriau Cwmnïau Gorau, mae hyn yn adlewyrchu lefelau ‘eithriadol’ o ran gweithgarwch ymgysylltu yn y gweithle ac fe’i ddyfarnir i ‘sefydliadau sy’n wirioneddol ragori’. Llwyddom i sicrhau’r safon hon diolch i adborth gan y bobl bwysicaf – ein staff – sy’n gweithio’n galed bob dydd i wneud gwahaniaeth.
Rydym wedi sicrhau Safon Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl hefyd, sy’n cydnabod faint yr ydym yn rhoi ein pobl yn gyntaf.
Hyfforddiant a datblygu
Rydym yn gwerthfawrogi ein pobl yn fawr ac rydym yn dymuno buddsoddi mewn rhoi’r cymorth a’r sgiliau cywir i chi er mwyn i chi allu gwneud gwahaniaeth gyda’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.
Mae dysgu a datblygu yn rhan annatod o’n busnes ac rydym yn ystyried bod datblygu ein staff yn un o’r prif gyfrifoldebau o fewn rôl pawb.
Rhaid i’r holl staff wneud ymrwymiad personol a buddsoddi eu hamser mewn manteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu a fydd yn gwella’u twf personol ac a fydd yn meithrin sgiliau ac ymddygiad.
Buddion a chyflog cystadleuol
Rydym yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac rydym wedi paratoi pecyn cynhwysfawr o gyflogau a buddion er mwyn helpu ein staff i gyflawni hyn. Mae hyn yn cynnwys popeth o wyliau blynyddol i bensiwn ac yswiriant gofal iechyd.
Darllen mwy
Cwmni Cymreig sydd â diben cymdeithasol
Rydym yn fenter gymdeithasol sydd â chydwybod cymdeithasol. Rydym yn darparu gwaith cynnal a chadw ar gyfer eiddo Tai Wales & West a bydd unrhyw elw y byddwn yn ei wneud yn cael ei wario ar ddatblygu diben cymdeithasol ein rhiant gwmni – gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.
Lleolir ein holl weithrediadau yng Nghymru, gan gefnogi busnesau lleol eraill a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Darllen mwy
Gyrfaoedd gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria
Darganfod mwy am ein swyddi gwag presennol ac amrediad y buddion sy’n hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.